Am iechydwriaeth lawn,
Foreuddydd a phrydnawn,
Molianu gawn yr Iesu gwiw;
Dyoddefodd angeu loes,
Yn ddiddig ar y groes,
A'i ddoniau roes i ddynol-ryw.
O'r iechydwriaeth fawr,
A lifodd i ni lawr,
Yn ffrydiau o anfeidrol hedd:
Rhyw fôr o gariad yw,
Dy heddwch di, fy Nuw,
A nef y nef yw
gwel'd dy wedd.
1,2,3,4,5; 1,2,4.
Am iachawdwriaeth lawn,
Foreuddydd a phrydnawn,
Moliannu gawn yr Iesu gwiw;
Dioddefodd angeu loes
Yn ddiddig ar y groes,
A'i ddoniau rhoes i ddynolryw.
Gorphenwyd talu'n llawn,
Ar groesbren un prydnawn;
O ddedwydd Iawn! ni gawn yn llu
Faddeuant yn ei waed,
A hollol wir iachâd;
A Duw yn Dad mewn cariad cu.
Agorwyd ar y bryn,
Ryw ffynnon rad cyn hyn,
A'm gylch yn wyn
o'm pen i'm traed;
Mae'n golchi'r dua ei liw,
Mor wyn a'r eira gwiw,
Rhinweddol yw y dwyfol waed!
Y ffynnon loyw hon,
Yn ol y waywffon
Aeth dan ei fron -
daeth i ni fraint!
A ylch y brwnt yn lân;
Hosanna, f'enaid cân:
Can's dyma sylfaen
yr holl saint.
Rhyw dorf o ddysglaer lu,
O flaen y fainc y sy,
Yn moli'n gu, a'i mawl ar g'oedd;
Angelion pur eu cân,
A seintiau fawr a mân,
Yn Salem lân, byth wrth eu bodd.
William Williams 1717-91priodolwyd hefyd i | also attributed to Dafydd Jones 1711-77
Tonau [668D]: gwelir: Agorwyd ar y bryn O iachawdwriaeth fawr |
Am iechydwriaeth lawn,
Foreuddydd a phrydnawn,
Molianu gawn yr Iesu gwiw;
Dyoddefodd angeu loes,
Yn ddiddig ar y groes,
A'i ddoniau roes i ddynol-ryw.
O'r iechydwriaeth fawr,
A lifodd i ni lawr,
Yn ffrydiau o anfeidrol hedd:
Rhyw fôr o gariad yw,
Dy heddwch di, fy Nuw,
A nef y nef yw
gwel'd dy wedd.
For full salvation,
Morning and afternoon,
We may praise the worthy Jesus;
Who suffered mortal anguish,
Contentedly on the cross,
And his gifts he gave to humankind.
Paying was finished fully,
On the wooden cross one afternoon,
O happy Ransom! we get as a host,
Forgiveness in his blood,
And complete, true healing,
And God as a Father, in dear love.
Opened on the hill was
Some free fount in the past,
Which washes me shite
from my head to my feet;
It is washing the blackest in colour,
As white as the worthy snow,
Full of merit is the divine blood!
This shining fount,
In the mark of the spear,
Went under his breast -
became for us a privilege!
Which washes the filthy clean;
Hosanna, my soul, sing;
Since hear is the foundation
of all the saints.
Some throng of a radiant host,
Before the throne is
Praising dearly, with its praise public;
Angels with their pure song,
And saints great and small,
In holy Salem, forever delighted.
tr. 2017,25 Richard B Gillion
|
|